Y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddCydraddoldeb 
 0300 200 6565 
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddEquality@senedd.wales
 senedd.wales/SeneddEquality 
 0300 200 6565 
 Y Pwyllgor Cydraddoldeb 
 a Chyfiawnder Cymdeithasol
 —
 Equality and Social Justice 
 Committee

 

 

 

20 Gorffennaf 2022

 

Annwyl Ddirprwy Brif Gwnstabl

Ymchwiliad i Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol – menywod mudol

Diolch am roi tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 27 Mehefin fel rhan o'n hymchwiliad. Roeddem yn ddiolchgar am eich amser a'r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gennych cyn y sesiwn.

Wrth i ni nesáu at gam adrodd ein hymchwiliad, byddem yn ddiolchgar pe gallech roi manylion ychwanegol i ni am yr hyfforddiant y mae staff yn ei gael ar gefnogi menywod mudol sy'n dioddef trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd. Hoffem wybod pwy sy'n cael yr hyfforddiant hwn a phryd y maent yn ei gael, er enghraifft a yw'n cael ei ddarparu fel rhan o hyfforddiant cychwynnol neu ar sail dreigl. Hoffem gael gwybodaeth benodol am yr hyfforddiant y mae swyddogion rheng flaen yn ei gael ynghylch:

§  iaith, yn enwedig mewn perthynas â sut mae'r heddlu'n dod o hyd i wasanaeth dehongli ar gyfer dioddefwyr pan nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf;

§  data, a rhannu data, gan gynnwys sut y caiff hyn ei gyfleu i bobl fudol sy’n dioddef trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol;

§  materion diwylliannol, megis priodas dan orfod, a thrais ar sail anrhydedd fel y'i gelwir; ac

§  atgyfeirio, h.y. gwybod pryd, sut a ble i gyfeirio unwaith y bydd achos wedi'i ganfod. 

Yn ystod sesiwn ymgysylltu a gynhaliwyd gennym yn Abertawe, clywsom enghreifftiau cadarnhaol o sut roedd atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol wedi gweithio. Sut mae enghreifftiau o arfer gorau o'r fath yn cael eu rhannu er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ledled Cymru?

Fel y nodwyd yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, mae rhannu data wedi bod yn elfen gyson o'n hymchwiliad ac, yn benodol, pryderon ynghylch a fyddai statws mewnfudo dioddefwr yn cael ei rannu ag asiantaethau eraill. Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu eich barn ar oblygiadau unrhyw gynigion ar gyfer llenni tân o ran data i heddluoedd Cymru.

Roeddem hefyd yn croesawu eich ymrwymiad yn ystod y sesiwn dystiolaeth i ddarparu rhagor o wybodaeth am y gyfradd gollfarnu ar gyfer y rhai sy'n cyflawni troseddau mynych, ac edrychwn ymlaen at dderbyn y wybodaeth hon maes o law.

Ers i ni gwrdd, cyhoeddwyd yr ymateb, ar 30 Mehefin, i'r uwch-gŵyn gan y Ganolfan Cyfiawnder Menywod. Pa berthnasedd, os o gwbl, sydd gan yr adroddiad hwn i’r ffordd y mae heddluoedd Cymru yn ymdrin â chwynion yn erbyn swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu ac yn enwedig unrhyw gwynion lle mae menywod mudol yn achwynwyr?

Yn gywir

Jenny Rathbone AS

Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol